Disgrifiad
Yn y Pitstop hwn i Aelodau, byddwn yn canolbwyntio ar EB Inversa Dystroffig Enciliol (RDEB-I). Gwyddom y gall byw gyda chyflwr prin deimlo’n ynysig, felly bydd y digwyddiad hwn yn gyfle da i gwrdd ag eraill sy’n byw gyda neu’n gofalu am rywun ag RDEB-I, i siarad â phobl a allai rannu profiadau tebyg i chi.
Dewch draw i gysylltu ag aelodau eraill, rhannu profiadau, a chlywed awgrymiadau gan eraill am sut maen nhw'n rheoli bywyd gydag RDEB-I.
Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer pynciau yr hoffech iddynt gael sylw mewn digwyddiadau yn y dyfodol, anfonwch eich syniadau atom mewn e-bost communitysupport@debra.org.uk.